Mae Iran yn dweud y dylai panel technegol i edrych tros gynllun y Cenhedloedd Unedig i reoli deunyddiau niwclear yn y wlad.
Dros y Sul, fe wrthododd Iran y cynllun gwreiddiol sy’n dweud y dylai cyfran helaeth o wraniwm Iran gael ei anfon i Rwsia i gael ei gyfoethogi. Byddai hynny’n atal Iran rhag gallu’i ddefnyddio i gynhyrchu arfau niwclear.
Yr wythnos ddiwethaf, fe ddywedodd Arlywydd Iran, Mahmoud Ahmadinejad, y byddi’r wlad yn parhau â’i rhaglen niwclear, er gwaetha’r pryderon rhyngwladol.
“R’yn ni wedi ystyried y cynigion, ond mae gyda ni faterion technegol ac economaidd i’w hystyried,” meddai’r Gweinidog tramor Manouchehr Mottaki (yny llun).
“Eisoes, r’yn ni wedi trosglwyddo ein sylwadau i’r Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol, felly mae’n bosibl iawn sefydlu comisiwn technegol i adolygu ac ailystyried y cynigion hyn.”
Y cynllun
Fe fyddai cynllun y Cenhedloedd Unedig yn gofyn i Iran yrru tua 2,600lbs neu 70% o’u stoc o wraniwm i Rwsia i’w brosesu – mewn un llwyth a hynny erbyn diwedd y flwyddyn.
Ar ôl hynny, byddai Ffrainc yn troi’r wraniwm yn ffyn tanwydd a fyddai’n cael eu dychwelyd i Iran a’u defnyddio mewn adweithydd sy’n cynhyrchu isotopau meddygol yn Tehran.
Fe fyddai cytuno ar y cynllun yn gam mawr ymlaen o ran cydweithredu rhwng Iran a gwledydd y Gorllewin ond mae nifer o wledydd, gan gynnwys Prydain a’r Unol Daleithiau yn parhau’n ddrwgdybus o fwriadau niwclear Iran.
Mae Iran yn dal i fynnu mai ei hunig nod yw gorsafoedd pŵer niwclear.
Llun (Trwydded CCA2.0)