Amddiffyn cry’ a phenderfyniad oedd yr allwedd wrth i’r Dreigiau barhau gyda’u cyfres o ganlyniadau da.

Fe lwyddon nhw i ennill oddi cartre’ am y tro cynta’ y tymor yma yng Nghynghrair Magners trwy deithio i Gaeredin a chipio]’r pwyntiau o 9-8.

Yn ôl chwaraewyr, Caeredin, yr allwedd oedd un cyfnod o chwarter awr yn yr ail hanner pan oedden nhw ar linell y Dreigiau. Ond yr unig wobr gawson nhw oedd cic gosb a thri phwynt.

Roedd y Dreigiau wedi mynd ar y blaen o 9-0 erbyn yr hanner, y cyfan o giciau cosb gan y maswr, James Arlidge.

Mewn glaw mawr, roedd hynny’n ddigon, gyda’r bêl lithrig yn rhoi mantais i amddiffynwyr.

Er i Gaeredin gael un cais gan Andrew Turnbull, roedd cadernid amddiffyn a disgyblaeth y Dreigiau’n ddigon i dorri calon yr Albanwyr.