Mae’r Cenhedloedd Unedig am roi’r gorau i waith datblygu tymor hir yng ngogledd-orllewin Pacistan, oherwydd pryderon diogelwch.
Wrth iddyn nhw wneud y cyhoeddiad, daeth adroddiadau am ffrwydrad arall yn nhre’ filwrol Rawalpindi, gerllaw’r brifddinas Islamabad.
Mae o leia’ bedwar o bobol wedi eu lladd a mwyn na dwsin wedi eu hanafu yn yr ymosodiad ger banc a gwesty ac yn agos at bencadlys yr heddlu.
Dyma’r ddiweddara’ mewn cyfres o ymosodiadau, sydd wedi lladd mwy na 250 o bobol yn ystod yr wythnosau diwetha’.
Pryderon diogelwch
Mae’r ymosodiadau yn rhannol yn ymateb i gyrch gan fyddin Pacistan yn erbyn gwrthryfelwyr yn y Gogledd-orllewin ac yno y mae’r Cenhedloedd Unedig am roli’r gorau i’w gwaith datblygu.
O ganlyniad, fe fyddan nhw’n canolbwyntio ar sefyllfaoedd argyfwng, cymorth dyngarol a gwaith diogelwch.
“Rydan ni wedi colli 11 o’n gweithwyr oherwydd y sefyllfa diogelwch” meddai Amina Kamaal, llefarydd ar ran y CU. “Dyna sy’n gyfrifol am y penderfyniad yma.”