Y dechrau gorau o ran addysg,” fydd un brif negeseuon yr AC Carwyn Jones wrth iddo lansio ei faniffesto yn yr etholiad am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru.

Er gwaetha’r dirwasgiad, mae’n addo cynyddu’r gwario ar addysg o 1% neu fwy yn uwch na’r arian sy’n dod gan Lywodraeth gwledydd Prydain.

“Addysg yw’r ffordd i ddifa tlodi,” meddai, gan honni mai ef yw’r unig un sy’n rhoi’r pwyslais hwnnw. Fe fyddai’n canolbwyntio ar daclo anghyfartaledd ym myd addysg ac yn gwella gofal plant.

Heddiw y mae’r papurau pleidleisio’n cael eu hanfon at aelodau’r Blaid Lafur – er mwyn iddyn nhw ddewis rhwng y tri ymgeisydd: Carwyn Jones, Edwina Hart a Huw Lewis.

Newid hinsawdd

Y ddwy sialens fawr, meddai Carwyn Jones, yw’r amgylchedd a’r economi, ac mae’r ddwy, i raddau, yn un: “Newid hinsawdd yw bygythiad mwyaf Cymru ond dyma ein cyfle economaidd mwyaf hefyd” meddai.

Fe fydd AC Pen-y-bont ar Ogwr, un o’r ddau sy’n arwain y ras, hefyd yn herio’r blaid ei hun i beidio â gorffwys ar ei rhwyfau a mynd ati i “godi disgwyliadau” pobol Cymru.

“Allwn ni wneud mwy fyth. Mae pobol Cymru yn gwybod y gallwn ni wneud yn well,” meddai. “Maen nhw eisiau i ni wneud yn well. Ein sialens ni yw gwneud i hyn ddigwydd.”

‘Gweledigaeth’

Mae’r maniffesto’n dangos sut argraff y mae ymgyrch Carwyn Jones yn gobeithio’i wneud. Mae ei gefnogwyr yn honni mai ganddo ef y mae’r polisïau mwya’ mentrus a blaengar ac mai ef yw’r dyn ar gyfer Cymru gyfan.

Dyma sylwadau trefnydd ei ymgyrch, Leighton Andrews AC y Rhondda:

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Carwyn wedi teithio’n ddiflino ar hyd a lled Cymru yn gwrando ac ymwneud â phobl – nid dim ond gydag aelodau’r blaid ond gyda phob math o bobol o bob rhan o’r gymdeithas – gan drafod y math o Gymru y maen nhw eisiau ei gweld.

“Mae’r maniffesto yw ffrwyth trafodaethau Carwyn tros y cyfnod yna. Yn ogystal â gosod ei weledigaeth am y math o Gymru y mae pobol yn ei haeddu ac eisiau ei gweld, fe fydd hefyd yn dangos cyfeiriad y teithio.

“Mae pobol eisiau Cymru hyderus, uchelgeisiol, oddefgar a ffyniannus – a Carwyn yw’r person i sicrhau hynny.”