Roedd hyfforddwr Cymru wrth ei fodd ar ôl i’r tîm Rygbi Cynghrair guro Iwerddon ac ennill lle yn rownd derfynol cystadleuaeth ryngwladol.

Ar ôl bod ar ei hôl hi o 12-0, fe aeth Cymru ar y sbri ym Mhontypridd ddoe gan sgorio wyth cais i ennill 42-12 yn y Cwpan Ewropeaidd.

Roedd yn ganlyniad pwysig o ran y dyfodol, medda’r hyfforddwr newydd, Iestyn Harris wedyn.

Mae bellach yn edrych ymlaen at y rownd derfynol yn erbyn yr Alban ar Gae’r Bragdy ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Sul nesa’.

“Mae yna lawer o dalent ifanc yn dod trwodd ac mae gyda ni gynllun tymor hir i fod yn gystadleuol erbyn Cwpan y Byd,” meddai.

Y gêm

Roedd yna ddau gyfnod allweddol i Gymru – wrth sgorio dau gais yn union cyn yr egwyl i ddod yn gyfartal ac wedyn gyda thri chais mewn deg munud yn yr ail hanner.

Sgorwyr gwahanol a gafodd pob un o’r wyth cais – Ian Webster a Lee Williams yn yr hanner cynta’ ac wedyn Rhys Williams, Ashley Bateman, Geraint Davies, Jordan James, Elliot Kear a Gil Dudson.

Fe lwyddodd Lloyd White gyda phump o’i wyth cynnig at y pyst wrth i Iwerddon gael eu cweir fwya’ ers wyth mlynedd.

Sylwadau Iestyn Harris

“Roedd yr amgylchiadau’n anodd, ond ro’n i’n teimlo nad oedd ein sgiliau’n dda yn yr 20 munud cynta’. Ond fe lwyddon ni i gywiro pethau a chwarae mas o drwbl. Dw i’n falch ohonyn nhw.

“Mae gynnon ni dipyn o ffatri ar waith, gyda chwaraewyr ifanc yn dechrau dod trwodd. Maen nhw wir yn dechrau dod at ei gilydd.”