Fe fu’n rhaid clirio’r rhan fwya’ o weithwyr oddi ar lwyfan olew ger Awstralia ar ôl tân anferth.

Mae’r Llywodraeth yn Canberra wedi addo ymchwiliad i achos y tân ym Môr Timor, lle’r oedd gweithwyr yn ceisio rhwystro olew rhag gollwng i’r dŵr.

Ers deg wythnos, mae’r rig wedi bod yn gollwng cymaint â 400 casgen y dydd o olew i’r môr a hynny wedi creu slic sy’n ymestyn filoedd o filltiroedd ac yn dechrau effeithio ar lannau môr yn Indonesia.

Mae’n debyg bod gweithwyr yn ceisio atal y broblem trwy ddefnyddio llaid i atal yr olew ac, yn awr, i ddiffodd y fflamau.

Roedd yr olew wedi dechrau gollwng ar Awst 21.

Llun (AP Photo)