O dan Lafur, mae mwy o drais yn cael ei achosi gan ddieithriaid a mwy yn digwydd ar y stryd, meddai’r Ceidwadwyr yn Llundain.
Maen nhw wedi bachu ar ffigurau yn yr Arolwg Troseddu Prydeinig sy’n dangos cynnydd yn y ddau gategori rhwng 1996 a heddiw – cyfnod Llafur mewn grym.
• Erbyn hyn, medden nhw, mae hanner yr holl droseddau treisiol yn cael eu hachosi gan ddieithriaid, o gymharu ag un rhan o dair yn 1996.
• Yn 1996, dim ond 20% o droseddau treisiol oedd yn digwydd ar y stryd. Erbyn 2008-09, roedd y ffigwr wedi codi i 34%.
“Mae fel petai gweinidogion yn methu â chydnabod bod hyn yn digwydd,” meddai llefarydd y Ceidwadwyr ar faterion cartref, Dominic Grieve.
“Y mwya’ yr yden ni’n ei ddysgu am y gwirionedd y tu cefn i’r prif ffigurau troseddu, mwya’ clir yw hi fod gyda ni broblem gynyddol o drais ac anrhefn ar ein strydoedd.”
Roedd yn rhoi’r bai yn rhannol ar yfed gwyllt a’r newidiadau a wnaeth y Llywodraeth Lafur i reolau trwyddedu.
Llun: Connor Muir, llanc 17 oed o ardal Caeredin a gafodd ei drywanu’n farw ynghynt eleni