Mae yna frwydr gyhoeddusrwydd wedi dechrau tros sacio prif ymgynghorydd y Llywodraeth ar gyffuriau.
Yn un papur, mae’r Ysgrifennydd Cartref, Alan Johnson, yn amddiffyn y penderfyniad; mewn un arall, mae’r ymgynghorydd, yr Athro David Nutt, yn rhybuddio y bydd gwyddonwyr yn gwrthod gweithio i’r Swyddfa Gartref.
Erbyn hyn, fe ddaeth hi’n amlwg bod dau wyddonydd wedi ymddiswyddo o’r Cyngor Ymgynghorol yr oedd David Nutt yn ei arwain – ar ôl iddo ef gael y sac am feirniadu polisi’r Llywodraeth ar gyffuriau.
Fe ddywedodd un o’r ddau, Dr Les King, bod cyngor y gwyddonwyr yn cael ei wrthod mor aml nes bod dim pwynt – “Roedd yr Ysgrifennydd Cartref yn dod i’r cyfarfodydd gyda syniad clir o beth fyddai’r penderfyniad.”
Y feirniadaeth
Wrth ysgrifennu yn y Times, mae David Nutt ei hun yn rhybuddio na fydd gwyddonwyr ‘go iawn’ yn fodlon gweithio i’r Ysgrifennydd Tramor yma nag unrhyw un arall yn y dyfodol.
“Mae fy sacio i yn taflu cysgod anferth tros y berthynas rhwng gwyddoniaeth a pholisi,” meddai.
Yr ail i ymddiswyddo yw’r fferyllydd, Marion Walker, ac mae disgwyl y gallai rhagor ymddiswyddo yn ystod y dyddiau nesa’.
Amddiffyniad Alan Johnson
Mae Alan Johnson ei hun wedi amddiffyn y sacio gydag erthygl yn y Guardian.
“Chafodd yr Athro Nutt ddim o’i ddiswyddo oherwydd ei farn – dw i’n parchu honno er fy mod yn anghytuno â hi. Fe ofynnwyd iddo fynd am na all e ddim bod yn ymgynghorydd i’r Llywodraeth ac yn ymgyrchydd yn erbyn polisi’r Llywodraeth hefyd.”
Barn David Nutt
Sail yr anghytundeb ydi barn yr Athro Nutt bod cyffuriau fel canabis wedi eu gosod yn y categori anghywir o ran peryg.
Mae’n dweud fod cyffuriau cyfreithlon fel alcohol a baco yn fwy peryglus ac y dylai pob cyffur gael ei restru yn ôl y niwed y maen nhw’n ei wneud.
Yn y datganiad a ddechreuodd yr helynt, roedd wedi dweud bod mwy o beryg i blant o gwympo oddi ar geffyl nag o ganabis.
Yn ôl Alan Johnson, does dim llawer o blant yn ei etholaeth ef yn debyg o fynd ar gyfyl ceffyl, ond fe fydd miloedd mewn peryg o fynd i afael cyffuriau.
Llun: Alan Johnson (CCA2.0)