Mae sawl ardal yng ngorllewin a de Cymru’n clirio ar ôl llifogydd sydyn yn ystod y dydd ddoe.

Fe fu’n rhaid i’r gwasanaethau diogelwch achub tua dwsin o bobol o dai a cheir wrth i nentydd a ffosydd lenwi oherwydd pwysau’r glaw.

Ymhlith y digwyddiadau mwya’ dramatig, roedd rhaid achub dau o gar yn ardal Castell Nedd a phedwar arall o geir ger Castellnewydd Emlyn.

Ar un adeg, roedd priffordd yr A40 ar gau yn ardal Llawhaden yn Sir Benfro – heb fod ymhell o barc hamdden Oakwood.

Yn y Cymoedd, roedd yna sawl digwyddiad hefyd, gan gynnwys tirlithriadau wedi’u hachosi gan y glaw ac mae’r ffordd tros y Rhigos ym mhen ucha’ Cwm Rhondda ar gau.