Mae’r bwlch rhwng iechyd dannedd ymhlith y cefnog a’r tlawd yng Nghymru yn cynyddu, yn ôl Y Gymdeithas Ddeintyddol Brydeinig.
Mae hynny’n gwbl annerbyniol, meddai adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw. Mae hwnnw’n galw am fwy o bwyslais ar atal problemau ac ar fwy o gydweithio gydag adrannau eraill o’r maes iechyd a gofal.
Mae’r Polisi ar Anghyfartaledd mewn Iechyd Dannedd yn cyfeirio at dystiolaeth ddiweddar sy’n dangos fod rhywfaint o bydredd yn nannedd hanner plant 5 oed yng Nghymru.
Ond y pryder mawr, medden nhw, yw bod gwahaniaeth “annerbyniol a chynyddol” rhwng pobol mewn ardaloedd cyfoethog ac ardaloedd di-fraint.
‘Cwbl annerbyniol’
“R’yn ni’n gweld bwlch mawr a hwnnw yn-llawer-rhy-aml oherwydd amddifadedd cymdeithasol,” meddai ‘r Athro Damien Walmsley, ymgynghorydd gwyddonol y Gymdeithas sy’n cynrychioli 23,000 o ddeintyddion trwy wledydd Prydain.
“Mae’n gwbl annerbyniol fod bwlch mor fawr yn bod yng ngwledydd Prydain yn 2009.”
Mae smygu ac alcohol hefyd yn cael effaith sylweddol, meddai’r adroddiad – mae’r Gymdeithas yn galw am adnoddau fel bod deintyddion yn gallu cynghori cleifion ar eu defnydd o faco a diod.