Fe fydd Cymru yn ganolbwynt i gefnogwyr awdur The Lord of the Rings pan fydd cymrodoriaeth o ysgolheigion, cefnogwyr ac artistiaid yn dod i ŵyl ryngwladol Tolkien.

Ac yn ôl trefnydd y digwyddiad ym Machynlleth y flwyddyn nesa’, fe fydd yn dangos cymaint oedd dylanwad Cymru ar lyfrau enwoca’r awdur o Rydychen.

“I mi, mae map Tolkien o ganol y ddaear yn amlinelliad o Gymru,” meddai Mark Faith, gwerthwr llyfrau sy’n arbenigo ar Tolkien.

Yn ogystal â bod yr iaith Gymraeg wedi ysbrydoli ieithoedd ‘Middle Earth’, roedd chwedloniaeth y wlad wedi cael dylanwad ar Tolkien hefyd, meddai.

“Dydw i ddim yn credu fod y Cymry Cymraeg yn ymwybodol o’r cysylltiad Cymreig sydd yng ngwaith Tolkien.”


Unigryw

Mae disgwyl i hyd at 10,000 o ddarllenwyr a dilynwyr ffilmiau ddod i’r ŵyl unigryw ac mae Mark Faith yn gobeithio y bydd yn gwneud lles i’r “gymdeithas a’r economi lleol”.

Fe fydd “Festival in the Shire” hefyd yn cynnwys cynhadledd dridiau i drafod dylanwad Cymru ar Tolkien.

Bryd hynny, fe fydd Dr Dimitra Fimi o Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd yn trafod sut yr oedd Tolkien wedi ei ysbrydoli gan chwedloniaeth Cymru.

Ymhlith y darlithwyr eraill bydd Jane Chance, Douglas Anderson, Tom Shippey, Colin Duriez, John Gareth a Verlyn Fliegr.

Ymhlith yr artistiaid fydd yn rhannu’u gwaith yno, bydd Roger Garland, Ted Nasmith, Jef Murray, Peter Pracownik a Ruth Lacon.

Fe fydd llyfrau prin yn cael eu harddangos yn yr ŵyl hefyd ynghyd â chrefftau Tolkien, gwaith celf gwreiddiol ac argraffiadau llenyddol cyntaf o gasgliadau preifat o waith yr awdur.

Dirwasgiad? “Angen Parti”

Mae’r trefnydd yn annog y cyhoedd i “wisgo i fyny yng ngwisgoedd cymeriadau Tolkien” a “chael hwyl”.

“Er gwaetha’r ffaith fod pobl yn poeni am yr economi, mae angen i ni roi ein clustiau hobbitt ymlaen a mwynhau parti mawr i ffoi oddi wrth bopeth,” meddai Mark Faith.

Dywedodd fod trefnu’r ŵyl yn teimlo “fel breuddwyd” iddo a’i fod yn bwriadu ei chynnal yn flynyddol o hyn ymlaen.

“Os fydd yr ŵyl hon yn llwyddiannus, bydd yn rhoi Machynlleth a Chymru gyfan ar y map rhyngwladol,” meddai.

Fe fydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ym Mhlas Machynlleth, rhwng Ebrill 13 a 15 2010.

(Llun: Alan Lee – Pelennor Fields. Llun tudalen flaen: Ted Nasmith – The Argonath)