Mae’r cwmni sy’n berchennog ar siopau diod Threshers a Winerack wedi mynd i’r wal heddiw gan beryglu miloedd o swyddi.
Mae hynny’n cynnwys tuag 20 o siopau yng Nghymru – yn ogystal â nifer yn ardaloedd poblog, mae yna Threshers mewn trefi gwledig fel Aberystwyth, Llandeilo, Corwen a Bangor ac ambell gangen o Winerack yn y de-ddwyrain.
First Quench Retailers yw’r grŵp sydd hefyd yn cynnwys siopau bwyd Haddows a The Local. Mae ganddyn nhw tua 1300 o siopau trwy wledydd Prydain.
Maen nhw wedi penodi cwmni cyfrifwyr KPMG yn weinyddwr ac wedi dweud eu bod yn gobeithio “cadw gymaint o swyddi ag sydd bosibl” drwy werthu rhai o’r siopau i berchnogion newydd.
Fe fydd siopau Threshers yn agored fel arfer heddiw wrth i’r gweinyddwyr ymdrechu i gadarnhau cytundeb â phrynwr.
Dywedodd y cwmni hefyd y byddai cyflogau staff yn cael eu talu’r wythnos nesaf yn ôl yr arfer.