Mae amheuon wedi codi am ddyfodol tymor hir y capten Craig Bellamy gyda thîm rhyngwladol Cymru.

Ond efallai bod yr adroddiadau ychydig yn fwy drastig nag union eiriau blaenwr Manchester City.

Mae’n cael ei ddyfynnu’n dweud na fyddai’n gallu chwarae i Gymru pe bai Manchester City yn cyrraedd Cynghrair Pencampwyr Ewrop … ond dyw’r manylion ddim mor glir.

Fe ddywedodd ychydig wythnosau’n ôl y byddai gyda Chymru ar gyfer rowndiau rhagbrofol Pencampwriaeth rhyngwladol Ewrop yn 2012 – mae’n swnio bellach ei fod yn ystyried chwarae llai o gemau rhyngwladol, heb ymddeol yn llwyr.

Awstralia

“Pe bai fy mhen-glin i’n brifo a bod gan Gymru gêm gyfeillgar yn Awstralia, fyddai hynny ddim yn gweithio. Fe fyddai rhaid i fi edrych ar hynny.”

Fe fydd y broblem yn codi os bydd Manchester City’n llwyddo i gyrraedd Cynghrair Pencampwyr Ewrop. Os bydd Bellamy yn y tîm yn gyson, fe allai olygu chwarae rhwng 50 a 60 o gêmau bob tymor.

Yn ôl Bellamy, fe fydd rhaid bod yn realistig ac mae’n debyg na fyddai hi’n bosib iddo chwarae cymaint â hynny. Ond roedd yn cyfadde’ hefyd ei bod yn frwydr iddo gadw ei le gyda City.