Mae arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd yn prysuro â chynlluniau i bennu cytundeb Lisbon heddiw.

Mae’n ymddangos yn fwy a mwy tebyg y bydd yr aelod ola’ – y Weriniaeth Tsiec – yn arwyddo’r Cytundeb ar ôl ennill consesiynau allweddol.

Fydd y wlad ddim yn gorfod gweithredu rhai rhannau o Siarter Hawliau Sylfaenol Ewrop – amod sylfaenol yn ôl Arlywydd y wlad, Vaclav Klaus.

Roedd yna bryder yno y byddai’r Siarter yn rhoi cyfle i Almaenwyr geisio hawlio tir yr oedden nhw wedi ei golli yno adeg yr Ail Ryfel Byd.

Roedd Vaclav Klaus – sydd yn erbyn integreiddio Ewropeaidd – wedi dweud na fyddai’n dilysu Cytundeb Lisbon os na fyddai’n cael ei newid, er bod holl wledydd eraill yr Undeb wedi ei ddilysu.

Dim ond un cam cyfreithiol arall sydd ar ôl, gyda Llys Cyfansoddiadol y wlad yn dyfarnu ar sialens i’r Cytundeb y mis yma.

Llun: Vaclav Klaus