Mae Ysgrifennydd Tramor yr Unol Daleithiau wedi cyhuddo swyddogion yn Llywodraeth Pacistan o wybod ble mae arweinwyr al Qaida ac o fethu â mynd ar eu hôl.

Fe ddywedodd Hillary Clinton wrth olygyddion papurau newydd ym Mhacistan ei hun eu bod nhw’n credu bod arweinwyr y grŵp terfysgol yn cuddio yn y wlad, ar y ffin gydag Afghanistan.

“Rwy’n ei chael yn anodd credu nad oes neb yn eich Llywodraeth yn gwybod ble maen nhw ac na fydden nhw’n gallu dal [al Qaida] petaen nhw wirioneddol eisiau gwneud hynny,” meddai.

Ymgyrch

Fe ddaeth y sylwadau ar ddiwedd taith dridiau ym Mhacistan, pan gafodd mwy na 100 o bobol eu lladd gan ymosodiad terfysgol yn ninas Peshawar.

Mae Llywodraeth Pacistan ar ganol ymgyrch fawr yn erbyn gwrthryfelwyr y Taliban ac al Qaida yn rhanbarth De Waziristan, ger ffin Afghanistan – hen bryd, meddai’r Unol Daleithiau.

Mewn sgwrs gyda disgyblion ysgol ym Mhacistan, fe rybuddiodd Hillary Clinton fod gan y wlad y dewis o ennill y tir yn ôl neu ei ildio i’r terfysgwyr.

Er bod Hillary Clinton yn enwog am siarad plaen, mae rhai o ddiplomyddion yr Unol Daleithiau’n dweud ei bod hi’n cyfleu teimladau preifat y Llywodraeth yn Washington.

Mae swyddogion yno yn credu bod arweinydd al Qaida, Osama bin Laden, yn dal i guddio yn y mynyddoedd rhwng Pacistan ac Afghanistan.