Mae rhieni dau blentyn bach wedi croesawu dedfrydau carchar ar y ddau ddyn ynghanol yr achos gwaetha’ erioed o gam-drin plant yn yr Alban.
Fe gafodd Neil Strachan, 41, a James Rennie, 38, o Gaeredin eu carcharu am oes am gam-drin plant yn rhywiol ac am wneud a dosbarthu lluniau anweddus o blant.
Fe fydd rhaid i Strachan fod dan glo am 16 blynedd cyn cael gwneud cais am barôl a Rennie am 13 blynedd.
Oes
Roedd mam plentyn a gafodd ei cham-drin gan Strachan yn gobeithio y byddai yn y carchar am weddill ei oes.
Roedd tad i fachgen a gafodd ei gam-drin gan Rennie – ffrind i’r teulu a gweithiwr ieuenctid – yn falch y byddai ei fab wedi tyfu’n ddyn cyn i Rennie fod yn rhydd unwaith eto. Roedd y cam-drin cynta’ wedi digwydd pan oedd y plentyn yn 3 mis oed.
Mae heddlu yn yr Alban yn dweud eu bod yn dechrau ar ymgyrch newydd yn erbyn pidoffiliaid sy’n defnyddio’r We ar ôl i’r ddau ddyn gael eu dedfrydu am fod ynghanol rhwydwaith a oedd yn rhannu lluniau anweddus.
Dychrynllyd
Roedd yr achos llys wedi clywed am luniau dychrynllyd ac am un o gysylltiadau’r ddau ddyn yn siarad gyda phlentyn ar y ffôn wrth iddi gael ei cham-drin.
Yn ôl y barnwr, roedd Rennie ynghanol y rhwydwaith ac roedd Strachan, a oedd wedi cam-drin plant cyn hyn, yn beryg parhaus i blant.
Llun: James Rennie ar y chwith a Neil Strachan ar y dde