Roedd gweithwyr iechyd wedi methu â gweld yr arwyddion o berygl cyn i ddyn gydag afiechyd meddwl drywanu dyn arall a’i ladd.
Mae Bwrdd Iechyd wedi ymddiheuro am y methiannau pan gafodd James Fortey, 44 oed, ei ladd gan Kevin Price, 45, yng Nghasnewydd fwy na dwy flynedd yn ôl.
Yn ôl adroddiad gan Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru, doedd gweithwyr iechyd ddim wedi gweld y bygythiad, doedd dim digon o gefnogaeth i’r gweithwyr ac roedd y drefn i gefnogi rhieni Kevin Price hefyd yn ddiffygiol.
Mae Kevin Price bellach yn cael ei gadw mewn uned ddiogel – mae’n diodde’ o sgitsoffrenia baranoid ac roedd ganddo broblemau iechyd meddwl ers pan oedd yn blentyn bach. Roedd yn byw gyda’i rieni.
‘Methu maddau’
Fe ddywedodd tad James Fortey, Bryn, fod ganddo gydymdeimlad at Kevin Price ond, yn nwfn ei galon, na fedrai faddau iddo.
“Dw i’n gwybod na fydd pethau fyth yn 100% a bod rhai am ddianc trwy’r rhwyd, ond ddylai neb lithro trwodd mor hawdd â Kevin Price,” meddai wrth Radio Wales.
Yn y cyfamser, roedd uwch swyddog meddygol gyda Llywodraeth Cymru yn pwysleisio mai eithriad oedd achos o’r fath.
Sicrwydd
“Tra bod digwyddiad fel hyn yn naturiol yn achosi pryder, fe hoffwn roi sicrwydd i bobol od y rhai sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl yn fwy tebyg o ddiodde’ niwed nag o’i achosi,” meddai Dr Sarah Watkins.
Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd Gwent oedd yn gyfrifol am drefniadau yn yr ardal ar y pryd ac mae ei olynydd, Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, wedi ymddiheuro ar eu rhan.
Mewn datganiad ar y cyd gyda Chyngor Sir Dinas Casnewydd, roedden nhw’n pwysleisio bod safonau gofal iechyd meddwl yng Ngwent wedi newid yn sylweddol.
Y cefndir
• Roedd Kevin Price yn diodde’ o sgitsoffrenia baranoid ac wedi bod yn meddwl ei fod yn cael ei ffilmio’n gyfrinachol – trwy gamerâu mewn polion lamp, gan ei gyn landlord a gan James Fortey.
• Roedd y symptomau wedi gwaethygu cyn y digwyddiad ym mis Awst 2007 ond doedd gweithwyr iechyd ddim wedi sylweddoli hynny.
• Yn ôl adroddiad yr Arolygaeth Iechyd Meddwl, doedd hi ddim yn bosib rhagweld y lladd ond fe ddylai Kevin Price fod wedi bod yn yr ysbyty ar y pryd.