Ar gyfartaledd, fe fydd merched Cymru’n gweithio am ddim am weddill y flwyddyn, yn ôl cymdeithas sy’n ymgyrchu tros gyflogau cyfartal.

Yn Sir Ddinbych, medden nhw, mae’r merched wedi bod yn gweithio am ddim ers wythnosau eisoes.

Mae Cymdeithas Fawcett yn honni bod menywod yng Nghymru ar y cyfan yn derbyn 17% yn llai o gyflog am waith o werth tebyg.

Mae’r ffigurau yng Nghymru yn agos iawn at y cyfartaledd trwy wledydd Prydain ond yn Sir Ddinbych – y gwaetha’ yng Nghymru – mae’r bwlch yn 25.6%.

Diwrnod Cyflog Cyfartal

Oherwydd y ‘misoedd am ddim’, heddiw yw Diwrnod Cyflog Cyfartal ac mae Cymdeithas Fawcett yn galw am awdit gorfodol ar gyflogau fel bod cyflogwyr yn gorfod profi eu bod yn talu cyflogau cyfartal.

Maen nhw’n dweud bod arolwg barn newydd yn dangos bod 85% o bobol gwledydd Prydain o blaid hynny – ar ôl iddyn nhw ddeall pa mor ddrwg yw’r sefyllfa.

“Heddiw mae merched yn derbyn eu tâl ola’ am y flwyddyn,” meddai Prif Weithredwr Cymdeithas Fawcett, Ceri Goddard. “Rhaid i’r Llywodraeth wynebu’r ffaith nad yw cyfraith cyflog cyfartal yn gweithio.”

Ychydig ffeithiau – yn ôl y Gymdeithas

Mae un o bob tri o achosion annhegwch mewn tribiwnlysoedd oherwydd annhegwch cyflog.

• Fe all achosion o’r fath gymryd cymaint â deng mlynedd i ddod i fwcwl.

• Roedd y bwlch cyflogau wedi lledu llynedd.