Fe fydd y Gleision yn teithio i wynebu Leinster ddydd Sadwrn heb ddeg o’u chwaraewyr rhyngwladol.
Fydd y chwaraewyr sy’n rhan o garfan Cymru ar gyfer gemau’r hydref ddim ar gael – mae’r rheiny’n cynnwys Gethin Jenkins, sydd wedi chwarae mewn dwy gêm y tymor yma, a Martyn Williams sydd wedi chwarae un.
Cyfle i’r ifanc
Dyw’r Gleision ddim wedi ennill gêm oddi cartref y tymor hwn, ac fe fydd y dasg yn llawer mwy anodd heb y sêr.
Mae’r ddau fachwr T Rhys Thomas a Gareth Williams ynghyd â’r blaenasgellwr Robin Sowden Taylor allan o’r gêm oherwydd anafiadau.
Fe fydd y bachwr ifanc, Rhys Williams a’r blaenasgellwr Ben White yn dechrau eu gemau cyntaf i’r Gleision.
Digon o brofiad
Er gwaetha’r absenoldebau, mae yna dipyn o brofiad yng ngharfan y Gleision, gyda Ben Blair yn gefnwr a Gareth Thomas yn ganolwr, Xavier Rush yn wythwr a’r capten, Paul Tito, yn yr ail reng.
Mae Chris Czekaj ar yr asgell, gyda’r ddau arferol, Sam Norton-Knight a Richie Rees, yn haneri.
Ymysg y blaenwyr mae Darren Morris a Taufa’ao Filise yn dod â phrofiad i’r rheng flaen. Mae Deiniol Jones yn ymuno gyda Tito yn yr ail reng.
Mae yna brofiad ar y fainc hefyd, gyda’r maswr Ceri Sweeney a’r asgellwr Dafydd James ar gael.
Carfan y Gleision
15 Ben Blair 14 Richard Mustoe 13 Gareth Thomas 12 Gavin Evans 11 Chris Czekaj 10 Sam Norton Knight 9 Richie Rees
1 Darren Morris 2 Rhys Williams 3 Taufa’ao Filise 4 Deiniol Jones 5 Paul Tito (C) 6 Scott Morgan 7 Ben White 8 Xavier Rush
16 Rhys James 17 Gary Powell 18 James Down 19 Josh Navidi 20 Darren Allinson 21 Ceri Sweeney 22 Dafydd James
Llun: Un o’r chwaraewyr absennol – Gethin Jenkins