Mae môr ladron sydd wedi herwgipio Prydeinwyr a’u cadw’n gaeth yn dal i geisio aros un cam o flaen yr awdurdodau.

Maen nhw wedi datgan heddiw eu bod yn bwriadu symud y cwpl, Paul a Rachel Chandler – am yr ail dro.

Eisoes, tros y ffôn gyda rhaglen ITV News, roedd Paul a Rachel Chandler o Tunbridge Wells wedi sôn am y foment pan ddaeth “dynion gyda gynnau” ar y cwch.

“Roeddwn i’n gwylio pan ddaeth dynion gyda gynnau ar y cwch,” meddai Paul Chandler. “Dydd Gwener oedd hi am hanner awr wedi dau’r bore.”

Dywedodd y cwpl fod môrladron yn “parhau i ofyn am arian” ac wedi cymryd popeth o werth oddi ar y cwch.”

Fe ddywedodd Paul Chandler hefyd fod y cwpl yn cael eu dal ar long y Kota Wakar, llong gargo a gafodd ei herwgipio Hydref 15.

Yna, mae’n debyg fod pysgotwyr lleol wedi gweld y cwpl yn cael eu cludo i bentre’ Ceel Hurr ger cadarnle’r môr ladron yn Harardhere.

“Symud”

Heddiw, dywedodd dyn sy’n honni bod yn llefarydd ar ran y môr ladron y byddai’r cwpl yn cael eu symud i long wedi’i angori yn arfordir dwyreiniol Somalia.

Yn ôl y llefarydd, mae’r môr ladron yn credu y bydd y gwystlon yn fwy diogel ar long gyda gwystlon eraill. Dywedodd hefyd fod y cwpl Prydeinig yn iach.

Nid yw’r môr ladron wedi gwneud cais bridwerth eto.

Yn y cyfamser, mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau ddoe eu bod wedi darganfod llong y Prydeinwyr yn wag.

Fel arfer, mae mor ladron yn cymryd llongau masnach ond yn ddiweddar maen nhw wedi gadael llongau llai gan gadw’r criwiau’n gaeth.

“Annerbyniol”

Ddoe, fe wnaeth y Prif Weinidog alw ar y môr ladron i ryddhau’r cwpl a dweud fod herwgipio yn “annerbyniol.”

Roedd Paul a Rachel Chandler, 58 a 55 oed, yn hwylio ger moroedd Somalia tuag at Tanzania o’r Seychelles mewn cwch hwylio o’r enw ‘Lynn Rival’ pan ddebyniodd gwylwyr y glannau neges argyfwng.

Mae swyddogion Prydeinig yn parhau ag ymdrechion i’w rhyddhau.