Mae person arall yng Nghymru wedi marw ar ôl dal ffliw moch.
Cadarnhaodd Llywodraeth y Cynulliad y farwolaeth heddiw ond fyddan nhw ddim yn rhoi unrhyw fanylion pellach.
Mae’r farwolaeth yn dod â nifer y bobol o Gymru sydd wedi marw ar ôl dal yr afiechyd i wyth, gan gynnwys David Hayes, 29 oed, a fu farw ar wyliau yn Sbaen yn gynharach y mis yma.
Mae swyddogion iechyd yn pwysleisio nad yw hi’n dilyn mai ffliw’r moch oedd achos y farwolaeth – yn aml, mae gan bobol gyflyrau iechyd eraill ac ysgafn yw’r symptomau yn y rhan fwya’ o achosion.
Fe fu gostyngiad bach yn nifer yr achosion posib a ddaeth i sylw doctoriaid ond mae ffigurau ffliw yn parhau ychydig yn uwch nag arfer ar gyfer yr adeg yma o’r flwyddyn.
“Yn anffodus, wrth i nifer yr achosion o ffliw moch gynyddu, mae’n anochel y bydd nifer y bobol sy’n dioddef o symptomau difrifol neu hyd yn oed yn marw yn cynyddu,” meddai llefarydd.