Mae cwmni yswiriant LV= wedi cyhoeddi y byddan nhw’n noddi Cwpan Lloegr-Cymru am y ddwy flynedd nesaf.

Fe fydd y gystadleuaeth, sy’n cynnwys pedwar rhanbarth Cymru ynghyd â 12 clwb o Uwch Gynghrair Guinness Lloegr, yn dechrau ar 5 Tachwedd.

Rhanbarthau Cymru sydd wedi ennill y gystadleuaeth am y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda’r Gweilch yn llwyddiannus yn 2008 a’r Gleision yn 2009.

Y drefn

Roedd yna amheuon ynglŷn â dyfodol y gystadleuaeth ar ddiwedd y tymor diwethaf, pan ddaeth cytundeb noddi EDF i ben.

Ym mis Mai, daeth y newyddion y byddai’r gystadleuaeth yn parhau, ond ar ei newydd wedd.

Fe fydd y gemau’n cael eu cynnal yr un adeg â gemau rhyngwladol yr hydref a Phencampwriaeth y Chwe Gwlad, sy’n golygu na fydd y prif chwaraewyr ar gael.

Ymryson

“Mae’r ymryson Eingl-Gymreig ymysg y rhai hynaf ym myd rygbi ac fe fydd y gystadleuaeth yn cyffroi chwaraewyr, hyfforddwr a chefnogwyr”, meddai Roger Lewis, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru.

“Fe fyddwn yn edrych ymlaen am dymor arall o rygbi ar ei orau rhwng clybiau gorau Lloegr a’r rhanbarthau Cymreig.”