Mae’r clo Ian Gough wedi cael ei benodi’n gapten ar y Gweilch ar gyfer y gêm yn erbyn Glasgow yn Stadiwm Liberty nos Wener.
Dyma ail gapten newydd y rhanbarth o fewn wythnos ar ôl i Shane Williams arwain y tîm yn eu gêm yn erbyn y Gleision dros y Sul.
Mae’r Gweilch eisoes wedi curo Glasgow yn y Cynghrair Magners y tymor hwn – oddi cartre’ o 16-26.
Ond fe fydd y Gweilch heb nifer o’u prif chwaraewyr oherwydd eu bod yn rhan o garfan Cymru ar gyfer gemau’r hydref.
Gyda James Hook a Dan Biggar yn absennol, mae Gareth Owen yn cael dechrau’r gêm yn safle’r maswr a Liam Davies yn cael cyfle fel mewnwr yn lle Gareth Cooper.
Mae Barry Davies yn cadw ei le’n gefnwr gyda’r Gwyddel Tommy Bowe a Nikki Walker ar yr esgyll. Sonny Parker ac Andrew Bishop fydd y canolwyr.
Blaenwyr
Fe fydd Filo Tiatia yn ymuno gydag Ian Gough yn yr ail reng o flaen Jerry Collins, Marty Holah a Tom Smith.
Gyda Paul James, Duncan Jones, Craig Mitchell a Huw Bennett yng ngharfan Cymru, Cai Griffiths, Richard Hibbard a Ryan Bevington sydd yn y rheng flaen.
Glasgow- ‘tîm da’
Mae Cyfarwyddwr Rygbi’r Gweilch, Scott Johnson yn credu y bydd Glasgow yn rhoi her i’w dîm nos Wener.
“Rydym yn chwarae yn erbyn tîm da nos Wener. Mae Glasgow wedi gwneud dechrau da i’r tymor gyda rhai canlyniadau gwych,” meddai Johnson.
“Does dim amheuaeth y bydd Glasgow yn dod i Stadiwm Liberty yn meddwl y bydd cyfle gyda nhw i ennill. Yr her i ni yw sicrhau nad ydyn nhw’n cael hynny.”
Carfan y Gweilch
15 Barry Davies 14 Tommy Bowe 13 Sonny Parker 12 Andrew Bishop 11 Nikki Walker 10 Gareth Owen 9 Liam Davies.
1 Ryan Bevington 2 Richard Hibbard 3 Cai Griffiths 4 Ian Gough 5 Filo Tiatia 6 Jerry Collins 7 Marty Holah 8 Tom Smith.
Eilyddion- 16 Ed Shervington 17 Ross Davies 18 James King 19 Steve Tandy 20 Rhodri Wells 21 Jonathan Spratt 22 Nicky Thomas.