Mae Cadeirydd Hybu Cig Cymru wedi condemnio sylwadau “anghyfrifol” uwch ymgynghorydd Llywodraeth wrth gynghori pawb i droi’n llysieuwyr.

Fe wnaeth Nicholas Stern, un o arweinwyr y frwydr yn erbyn newid hinsawdd ac awdur arolwg newid hinsawdd dylanwadol yn 2006 alw ar bobol i droi’n llysieuwyr i helpu atal cynhesu byd eang.

Mae Nicholas Stern yn dadlau fod methan sy’n dod o wartheg a moch yn rhoi “pwysau aruthrol” ar yr amgylchedd a bod angen i bobol “ddechrau meddwl am yr hyn y maen nhw’n ei fwyta”.

Dywedodd yr uwch ymgynghorydd wrth bapur ‘The Times’ fod cynhyrchu cig yn ddefnydd “gwastraffus o ddŵr” ac yn “creu llawer o nwyon tŷ gwydr”.

‘Anghyfrifol’

Ond, mae Cadeirydd Hybu Cig Cymru, Rees Roberts wedi cyhuddo Nicholas Stern o fod yn “anghyfrifol” ac yn “wrthgynhyrchiol”.

“Dim ond drwy fabwysiadu dulliau cytbwys mae modd taclo sialensiau newid hinsawdd a gwneud newidiadau allweddol,” meddai.

Roedd hi’n “amhosib tyfu cnydau ar 60% o dir amaethyddol Prydain”, meddai, ac roedd y diwydiant cig yn “arwain ymchwil blaenllaw i ddulliau o leihau nwyon tŷ gwydr”.

Dywedodd hefyd bod Nicholas Stern wedi anwybyddu gwerth cig coch fel rhan o ddiet iach a chytbwys.