Fe fydd menyg Marigold ac un o gampweithiau Michelangelo yn helpu i greu’r awyrgylch mewn bar newydd, y Cardiff Arts Institute (CAI), sy’n agor ar hen safle ‘Incognito’ ger yr Amgueddfa Genedlaethol noson Guto Ffowc.

Dwy o’r rhai sydd y tu cefn yw’r syniad yw Becky a Gabrielle Kelly, y ddwy chwaer o Aberarth, Ceredigion, sy’n berchnogion ar un o fariau mwya’ poblogaidd a thrawiadol y ddinas, Milgi.

Fe fydd y penwythnos agoriadol yn cynnwys perfformiadau gan nifer o fandiau, yn cynnwys Cate le Bon, Samba Galles a Joy Formidable, ac mae’r rhaglen sy’n dilyn yn addo cymysgedd eclectig o ddigrifwyr, cerddoriaeth fyw, DJs, celf, beirdd a dawnswyr o Gymru a thu hwnt.

Bar arloesol

Mae’r bar yn fenter ar y cyd rhwng grŵp tafarnau annibynnol 580 Limited sy’n gweithredu yn bennaf yn Llundain, a chwmni ‘Something Creatives’ o Gaerdydd sy’n cynnwys nifer o drefnwyr a hyrwyddwyr cerddorol mwya’ blaenllaw’r ddinas.

Meddai Matt yr Hat, o Something Creatives, “Ein bwriad yw creu rhywle sy’n cyfleu beth mae’n ei olygu i fyw, gweithio a chwarae yng Nghaerdydd yn yr oes yma – rhywle fydd yn crisialu diwylliant bywiog ac eclectig y ddinas”.

Yn hytrach na bar trendi drud, bydd y CAI yn tynnu ysbrydoliaeth o gantinau a chlybiau cymdeithasol traddodiadol.

Merched Milgi sy’n gyfrifol am gynllunio golwg a bwydlen y bar newydd.

“Y syniad yw ein bod yn efelychu amrywiaeth o sefydliadau Prydeinig o’r WI i lyfrgelloedd. Felly mae’r cwmni dylunio lleol, Elfen, yn creu ardal i’r bar ar ffurf canolfan hamdden a dw i’n creu wal gelf allan o fenyg Marigold!,” meddai Becky Kelly.


Oriel gelf

Yn ogystal â’u profiad yn rhedeg Milgi, mae’r chwiorydd Kelly hefyd wedi tynnu ar eu cefndir yn raddedigion o Goleg Celf a Dylunio Canolog St. Martins.

“Yr hyn ni’n ceisio’i gyfleu yw’r teimlad o gael diod mewn sioe gelf breifat chwareus,” meddai Becky Kelly. “Fe fydd y bar yn arddangos fersiwn o do Capel y Sistine [Michelangelo] gan grŵp celf ‘Designer Violence’ , ynghyd â fersiwn Cymreig o’r arwydd ‘Hollywood’ gan Carwyn Evans.

“’Dyw’r holl gelf ddim yn golygu mai oriel ddigyffro a thawel fydd CAI – i’r gwrthwyneb! Lle mae Milgi yn grêt am sgwrs neu barti bach, bydd CAI yn rhywle i ddawnsio yn eich gladrags!”.

Cyfrinach mohito Milgi yn aros

Tra bydd y fwydlen yn cynnig ffefrynnau tafarn go syml, fel byrgers, sglodion a brechdanau, fe fydd y fwydlen diodydd yn llawer mwy mentrus, ac yn cynnwys bar mohito arbennig gyda hanner dwsin o ryseits newydd i garwyr coctels.

Ond fydd un ddiod ddim yno, meddai Becky Kelly. “Yn anffodus, fydd mohito arbennig Milgi ddim ar gael fan hyn – mae’r hyn sy’n cael ei ddyfeisio yn Milgi yn aros yn Milgi!”.

Llun: O’r chwith Gabrielle Kelly, Simon Griffiths, Matt yr Hat, Becky Kelly