Mae pennaeth Scarlets Llanelli yn poeni am y torfeydd bychan sydd wedi bod yn dod i weld y tim yn eu cartref newydd ar Barc y Scarlets.
“Fel Prif Weithredwr, y diwrnod pwysicaf i’r clwb yw’r diwrnod pan mae miloedd o gefnogwyr yn dod i’r stadiwm,” meddai Paul Sergeant, y dyn fu’n bennaeth Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd am flynyddoedd.
Mae Paul Sergeant yn dweud ei bod yn syndod iddo, cyn dod i Lanelli, bod y torfeydd ddim cystal ag y dylent fod.
Trwy gydol y cyfweliad gyda Golwg, cyfeiriodd at ‘y profiad o ymweld â’r stadiwm’ droeon, gan bwysleisio bod gwella’r profiad hwnnw yn uchel ar ei restr.
‘Theatr’
Mae’n dweud fod mynd i weld gêm rygbi fel y profiad o fynd i’r theatr.
“Mae’n fusnes adloniant wedi’r cyfan ac mae’n rhaid gwneud y profiad o fod yn Parc y Scarlets yn un pleserus,” meddai Paul Sergeant.
“Os ydyn ni’n colli, mae hwnna’n anodd, fel y mae’n siom os nad ydi’r perfformiad yn y theatr cystal â’r disgwyl.
“Un peth yw gorfod derbyn hynny yn y lle cyntaf, peth arall yw gorfod derbyn hynny mewn theatr sydd ddim o’r safon gywir ac adnoddau sydd ddim yn ddigonol.
“Felly hefyd gyda dod i’r stadiwm. Rhaid sicrhau bod y parcio’n iawn, nad oes gormod o giwio, bod y prisiau’n iawn ar gyfer gwahanol bethau ac ati.
“Dyna pam yn un peth, mae pentre’r cefnogwyr wedi ail ymddangos ac mae gweithgareddau yn yr ysgubor hyfforddi cyn gemau. Dyw hynny ddim yn gwneud i fyny am golli, ond mae’n fwy tebygol o ddenu pawb nôl tro nesa.”
Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Golwg, Hydref 29