Mae’r nofelydd Eigra Lewis Roberts wedi dweud yn y gorffennol na fyddai “byth” yn gallu sgrifennu hunangofiant.

Ond y peth agosa’ at hynny fydd ei nofel ddiweddara, Hi a Fi – ei bod yn gwrthod â datgelu pa straeon sydd wedi digwydd go iawn.

Fe gaiff pobol “ddyfalu” yr hyn sy’n wir – “allan nhw byth fod yn siŵr,” meddai’r awdur o Ddolwyddelan.

Mae’r nofel yn sôn am gyfnod o tua blwyddyn a hanner yn y 1950au cynnar. Mae’r prif gymeriad, Helen, yn gadael yr ysgol gynradd i ferched ym Mlaenau Ffestiniog ac yn mynd i’r ‘County School’. A dyna a wnaeth yr awdur ei hun.

“Mi allech chi ddweud ei bod hi’n rhannol hunangofiannol,” meddai Eigra Lewis Roberts. “Mae hi’n gymysg o ffaith, peth gwirionedd, dychymyg. Fase neb yn gallu gwahaniaethu rhyngddyn nhw.”

Nofel o fewn nofel

Mae Eigra Lewis Roberts wedi dewis fframwaith dyfeisgar i adrodd yr hanesion – mae’n “nofel o fewn nofel”.

Ar y dechrau, mae’r prif gymeriad, Helen, yn sgrifennu straeon am ei phlentyndod yn y Blaenau.

Daw hen gyfaill iddi, Nesta, nôl i’r Blaenau o Lerpwl a mynnu eu darllen er mwyn cywiro’r ffeithiau – caiff ei chynhyrfu gymaint fel ei bod hi’n mynd â beiro goch trwy’r copi.

“Mae’r awdur yn dweud mai dychymyg ydi o,” meddai Eigra Lewis Roberts, “ond mae Nesta yn dweud, naci, celwydd ydi o. Yr un peth ydi’r ddau.”

Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Golwg, Hydref 29