Mae artist o’r gogledd eisie i bobol Caerdydd gael blas ar y “ffenomenon” wyddbwyll sy’n digwydd mewn parciau mewn dinasoedd fel Washington a Pharis.
Ger caffi awyr agored yr Aes yng nghanol y brifddinas mae Bedwyr Williams wedi gosod pedwar bwrdd o garreg ithfaen, ag arnyn nhw sgwariau du a gwyn gêm wyddbwyll.
“Dw i wastad wedi mwynhau ffilmiau lle mae pobol yn chwarae gwyddbwyll yn y cefndir. Mae e’n rhywbeth sy’ ddim yn digwydd yn y wlad yma,” meddai.
“Mae hi’n annhebyg fase Caerdydd byth wedi neud hynna. Interaction ydi o.”
Cafodd y gwaith, sydd i’w weld gyferbyn â siop lyfrau Waterstones, ei ddadorchuddio ddydd Sadwrn. Bu’r cyntaf yno’n chwarae gêm neu ddwy o wyddbwyll.
“Mi wnes i sylwi bod pobol gyffredin yn chwarae chess,” meddai Bedwyr Williams.
“Mae gen ti junkies yn chwarae chess a phob dim – mae’n ddemocrataidd iawn.”
Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Golwg, Hydref 29