Yn ôl awdur llyfr ar hanes cadeiriau eisteddfodol, mae gan Gymru doreth o feirdd medrus ond hefyd seiri a chrefftwyr medrus.

“Fel rhywun sydd wedi astudio traddodiad celfi Cymru am dros chwarter canrif, roeddwn wedi bod yn ymwybodol o bresenoldeb y Cadeiriau Barddol, ond heb eu gwerthfawrogi’n llawn,” meddai Richard Bebb, cydawdur y gyfrol The Bardic Chair – Y Gadair Farddol.

Ynghyd â Sioned Williams, curadur Celfi Amgueddfa Sain Ffagan, mae Richard Bebb wedi casglu cyfrol sy’n olrhain y traddodiad o ddefnyddio cadair i anrhydeddu beirdd buddugol eisteddfodau Cymru ers canrifoedd.

“Mae’r fath ddefnydd o gadeiriau yn unigryw i Gymru ond mae’n siŵr ei fod yn wir i’r rhan fwyaf ohonom ei diystyru os nad oedd rhywun yn y teulu wedi ennill un!” meddai Richard Bebb.

“Mae’n siŵr nad yw’r rhan fwyaf o bobol yn hoff iawn ohonynt a does dim gwerth masnachol iddyn nhw o gwbl! Ond, yn ddiwylliannol, maen nhw’n amhrisiadwy.”

Mae lluniau dros 250 o gadeiriau yn y llyfr: cadeiriau eisteddfodau lleol a rhai cenedlaethol – o Gadair Ddu Hedd Wyn yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i gadair binc a gwyrdd Myrddin ap Dafydd yn Nhŷ Ddewi ar ddechrau’r mileniwm hon.


Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Golwg, Hydref 29