“Mae cau Theatr Gwynedd wedi bod yn hynod drist. Nid yw Bangor yn cynnig llwyfan gelfyddydol erbyn hyn yn enwedig i’r ifanc, ac wrth feddwl fod dros 10,000 o fyfyrwyr ym Mangor, mae’n gwneud synnwyr i gael digwyddiad cerddorol blynyddol yn y ddinas.”
Fel hyn mae trefnwyr gŵyl newydd Bang Bangor yn esbonio’r penderfyniad i drefnu bod 60 o fandiau mewn deg lleoliad gwahanol dros bedair noson yn y ddinas.
Gobaith y trefnwyr yw efelychu llwyddiant Gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd ac In The City ym Manceinion.
Y nôd yw denu’r myfyrwyr di-Gymraeg i fwynhau’r Sîn Roc Gymraeg, wrth gyflwyno bandiau o bell i Gymry’r ardal.
Ond gyda’r mwyafrif helaeth yn digwydd ym Mangor Uchaf, ai gŵyl i fyfyrwyr yn unig yw hon?
“Dw i’n gobeithio na fydd o ddim,” meddai Aled Ifan, un o’r trefnwyr.
“Dydan ni ddim wedi targedu Bangor Uchaf yn benodol. Digwydd bod mae’r Glôb a Patrick’s yn llefydd da i gynnal gigs, ac mae’r Fenai yn feniw neis. Ac maen nhw wedi hen arfer rhoi pethau ymlaen yn y Greeks.”
Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Golwg, Hydref 29