Mae model o Aberystwyth wedi llwyddo i gael rôl i strytio’i stwff yn fideo newydd y rocwyr a’r bopwyr, y Stereophonics.
Yn y fideo ar gyfer ‘Innocent’ a fydd yn cael ei ryddhau fel sengl fis nesa’, mae Melissa Palmer, 21, o Rydyfelin, yn actio rhan merch sydd wedi cwympo mewn cariad.
Cafodd y fideo ei ffilmio yn Llundain, gyda bachgen a merch yn dawnsio gyda’i gilydd cyn mynd am dro gyda’r nos.
Ond mae yna dro bach yn y cynffon yn sydyn reit pan mae’r ferch yn dechrau dawnsio ar ymyl pont rheilffordd.
Dywedodd y fodel gydag asiantaeth Storm yn Llundain ei bod hi wedi gorfod anwybyddu’r pili palas yn ei stumog pan wnaeth y camerâu ddechrau ffilmio.
“Un o’r pethau oedd yn rhaid i mi wneud,” meddai wrth bapur lleol y Cambrian News, “oedd wynebu’r band a dawnsio wrth iddyn nhw berfformio, gan gadw llygad arnyn nhw trwy’r amser.
“Wnaeth e gymryd hydoedd i mi fagu hyder – roeddwn i mor swil!”