Mae rheolwr clwb pêl-droed Caerdydd, Dave Jones, yn dweud bod angen i’r amddiffynnwr Gabor Gyepes ymladd am ei le yn y tîm cyntaf.
Dyw’r chwaraewr rhyngwladol o Hwngari ddim wedi cael lle cyson i’r Adar Glas y tymor hwn ar ôl i Mark Hudson ac Anthony Gerrard ymuno dros yr haf.
Er bod yna gwestiynau’n codi ynglŷn â safon amddiffyn Caerdydd y tymor hwn, mae Dave Jones wedi cadw ffydd yn yr amddiffynwyr newydd, gyda Hudson yn gapten newydd ar y clwb.
Mae Jones wedi cadarnhau bod Gyepes yn teimlo’n rhwystredig gyda’r diffyg pêl droed tîm cyntaf, ond gwadodd ei fod o wedi cwympo mas gyda’r amddiffynnwr.
‘Dim syniad’
Dyw Gyepes ei hun ddim fel petai’n cytuno – doedd ganddo ddim syniad n beth arall y gallai ei wneud i ennill ei le yn y tîm cynta’, meddai.
“Does gen i ddim syniad pam nad ydw i’n chwarae. Dw i’n ymarfer yn galed ac yn gwneud ymdrech bob tro.”
Fe wnaeth Gyepes ddechrau 27 gêm i Gaerdydd y tymor diwethaf ac mae’n parhau i chwarae’n gyson ar lefel ryngwladol.