Mae Dan Lydiate ar fin gwireddu ei freuddwyd o chwarae dros Gymru – ddwy flynedd ers iddo dorri ei wddw.

Gwobrwywyd perfformiadau Lydiate i’r Dreigiau’r tymor yma pan gafodd y blaenasgellwr ei ddewis i’r garfan ar gyfer gemau rhyngwladol yr hydref – yr unig chwaraewr heb gap.

Yn ôl ym mis Hydref 2007 roedd yna gwestiynau ynglŷn â’i ddyfodol fel chwaraewr, ar ôl dioddef anaf difrifol yn erbyn Perpignan yn y Cwpan Heineken.

“Dw i’n cofio’n union beth ddigwyddodd, ac ro’n i’n gorwedd yno’n meddwl bod pethau ddim yn dda,” meddai Lydiate.

Roedd wedi torri ei wddw a rhwygo pob tennyn ynddo, ac roedd angen llawdriniaeth arno i newid disg oedd wedi mathru.

“Doeddwn i ddim yn gwybod a fyddwn i’n gallu cerdded eto, ond fe ddaeth i’r amlwg wedyn y byddwn i’n iawn,” meddai.

“Y cwestiwn nesaf oedd a fyddai modd i fi chwarae eto. Ar ôl i mi gael y llawdriniaeth, fe ddywedon nhw nad oedd unrhyw beth i fy rhwystro.”

Cap cyntaf

Roedd y blaenasgellwr yn rhan o garfan Cymru i Ogledd America’r haf diwethaf. Ond bu rhaid iddo dynnu’n ôl er mwyn helpu’r Dreigiau i ennill eu lle yn y Cwpan Heineken mewn gêm ail gyfle.

Ond dywedodd Lydiate bod ei brofiad cyntaf yng ngharfan Cymru wedi’i wneud yn benderfynol i ennill ei gap cynta’ hefyd.

“Dw i eisie ennill fy nghap cyntaf, ond gawn ni weld beth fydd yn digwydd. Dw i’n edrych ymlaen at ymarfer a gwthio am le.”