Fe fydd Morgan Stoddart yn chwarae ei gêm gyntaf i’r Scarlets y tymor hwn ar ôl absenoldeb o saith mis oherwydd anaf i’w ben-glin.

Mae Stoddart, sydd fel arfer yn chwarae yn safle’r cefnwr, yn dechrau ar yr asgell yn erbyn y rhanbarth Gwyddelig ar faes y Sportsground.

“Mae Morgan wedi bod yn ymarfer yn dda iawn, ac mae wedi bod yn cymryd rhan yn yr ymarferion corfforol ers tair wythnos,” meddai Nigel Davies, prif hyfforddwr y Scarlets.

Fe wnaeth Stoddart chwarae i Lanelli yn erbyn Aberafan y penwythnos diwethaf, a dywedodd Nigel Davies nad oedd unrhyw broblemau.

“R’yn ni’n gwybod beth yw safon chwarae Morgan, ac mae angen ei gael e‘n ôl ar y llwybr cywir cyn gynted â phosib”, meddai Davies.

Newyddion y tîm

Fe fydd Daniel Evans yn dechrau yn safle’r cefnwr gyda Lee Williams ar yr asgell arall gyferbyn â Morgan Stoddart.

Gyda Stephen Jones a Martin Roberts yng ngharfan Cymru, mae Rhys Priestland wedi cael ei ddewis yn faswr a Tavis Knoyle yn fewnwr.

Yr Albanwr, Sean Lamont, a Rob Higgit fydd canolwyr y Scarlets.

Blaenwyr

Mae Richie Pugh yn cymryd lle’r blaenasgellwr Dafydd Jones, gyda Simon Easterby a David Lyons, sy’n gapten nos Wener, yn cwblhau’r rheng ôl.

Fe fydd y clo, Damian Welch yn ymuno â Vernon Cooper yn yr ail reng ac Iestyn Thomas, Ken Owen a Deacon Manu yn arwain o’r rheng flaen.

‘Gêm anodd’

Mae Nigel Davies yn credu y bydd yn anodd i’r Scarlets ennill yn erbyn Connacht ac y bydd rhaid i’w chwaraewyr fod yn gorfforol gryf.

“R’yn ni’n gwybod ei fod yn lle anodd i chwarae, gyda’r tywydd wastad yn wael pan ’yn ni wedi chwarae yna,” meddai.

Ond ychwanegodd bod yna hyder o fewn y garfan ar ôl ennill tair gêm yn o’r bron.

Carfan y Scarlets

15.Daniel Evans, 14.Morgan Stoddart, 13.Sean Lamont, 12.Rob Higgitt, 11.Lee Williams, 10.Rhys Priestland, 9.Tavis Knoyle.

1.Iestyn Thomas, 2.Ken Owens, 3.Deacon Manu, 4.Vernon. Cooper, 5.Damian. Welch, 6.Simon Easterby, 7.David Lyons, 8.Richie Pugh.

Eilyddion – 16.Phil John, 17.Emyr Phillips, 18.Aaron Shingler, 19.Josh Turnbull, 20.Gareth Davies, 21.Daniel Newton, 22.Gareth Maule.