Mae cynhyrchwyr yn chwilio am ddau deulu i gymryd rhan mewn cyfres realiti hanesyddol gan wneuthurwyr rhaglen ‘Coalhouse’ y BBC, a fydd yn cael ei gosod mewn tyddynnod yn Eryri.

Yn y gyfres newydd ‘Snowdonia Farmhouse’, fydd yn cael ei darlledu’r flwyddyn nesaf, fe fydd y teuluoedd yn teithio’n ôl i’r 1890au ac yn cael blas o fywyd tyddynwyr yn ystod y cyfnod.

Fe fydd y merched yn gweithio ar y tir ac yn edrych ar ôl y teulu a’r anifeiliaid wrth i’r dynion weithio mewn chwarel gyfagos.

Dywedodd Clare Hudson, Pennaeth Rhaglenni Iaith Saesneg y BBC, eu bod yn “edrych ymlaen at gludo teuluoedd yn ôl i gyfnod difyr yn hanes Cymru”.

Mae modd ymgeisio drwy e-bost neu drwy linell ffôn y BBC. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 27 Tachwedd ac fe fydd teuluoedd ar y rhestr fer yn cael gwybod erbyn 4 Rhagfyr.