Bydd grŵp gwrth niwclear sydd wedi gwneud cwyn swyddogol yn erbyn rhaglen y BBC, Pawb a’i Farn, yn mynd â’u cwyn at S4C.

Mae PAWB, sy’n gwrthwynebu ail orsaf niwclear ar Ynys Môn, yn cwyno bod y panel ar gyfer y rhaglen yng Nghaergybi ar Dachwedd 12 yn ffafrio’r datblygiad.

Dywedodd y grŵp bod ymateb y BBC wedi bod yn anfoddhaol ac y bydden nhw’n defnyddio Noson Wylwyr gan S4C yn Llangefni dydd Mawrth nesaf, 3 Tachwedd i fynd a’u cwyn at S4C.

Mae PAWB yn anhapus oherwydd bod panel y rhaglen yn cynnwys John Idris Jones, aelod o dîm rheoli gorsaf niwclear y Wylfa, yr Aelod Seneddol lleol, Albert Owen, sy’n cefnogi ail Wylfa, a’r newyddiadurwr, Vaughan Hughes, sydd, medden nhw, wedi awgrymu cefnogaeth.


Ymateb y BBC

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC bod “Pawb a’i Farn yn ceisio adlewyrchu ystod eang o safbwyntiau gwleidyddol, cymdeithasol a chymunedol.

“O ystyried hyn, mae’n gwbl resymol i’r rhaglen wahodd cynrychiolydd o un o brif gyflogwyr Ynys Môn fel yr Wylfa i fod ar banel o’r fath.

“Mae hefyd yn bwysig tanlinellu nad rhaglen benodol ynghylch y diwydiant niwclear fydd rhaglen Pawb a’i Farn o Ynys Môn.

“Fodd bynnag, os cyfyd y diwydiant niwclear fel pwnc trafod, yna fe fydd cyfle priodol i’r sawl sy’n gwrthwynebu’r diwydiant i gael lleisio’r farn honno.”

Ac ymateb PAWB

Dywedodd Dylan Morgan o PAWB nad oedd yr “ymateb yn foddhaol o gwbl. Mae’n gwbl amlwg eu bod nhw’n rhoi ffafriaeth i’r diwydiant niwclear.

“Mae’n codi cwestiynau eithaf difrifol am annibyniaeth y BBC. Maen nhw’n peryglu eu statws eu hunain fel corff newyddiadurol i’w cymryd o ddifrif.”