Mae peryg y bydd ffliw’r moch yn effeithio ar un o draddodiadau mawr gwledydd Prydain.

Mae’r Asiantaeth Gwarchod Iechyd yn dweud y dylai pêl-droedwyr roi’r gorau i boeri ar y cae.

Gyda chwaraewyr o ddau o brif glybiau Uwch Gynghrair Lloegr yn dangos symptomau’r salwch – Blackburn a Bolton – mae’r Asiantaeth yn dweud bod poeri’n gallu ei ledu.

Fe ddylai chwaraewyr fod yn ufuddhau i’r un rheolau â phawb arall, medden nhw, gan roi llaw tros eu ceg wrth disian a thaflu macynon papur.

“Mae poeri yn arfer ffiaidd ar y gorau,” meddai’r Asiantaeth. “Mae’n afiach ac yn frwnt, yn enwedig os ydych chi’n poeri yn agos at bobol eraill.

“Fyddai chwaraewyr pêl-droed, fwy na neb arall, ddim yn poeri yn y tŷ felly ddylen nhw ddim gwneud hynny ar y cae.”

Llun: PA