Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad wedi galw am wella’r gwasanaeth dyslecsia ar gyfer plant Cymraeg.

Mewn rhai achosion, meddai’r Pwyllgor Menter a Dysgu, mae plant yn gorfod cael eu symud o ysgolion cyfrwng Cymraeg i ysgolion Saesneg er mwyn cael y gwasanaethau sydd eu hangen.

Wrth ganmol y ddarpariaeth yn gyffredinol yng Nghymru, maen nhw’n dweud bod diffyg o ran adnoddau i sgrinio ac asesu plant trwy gyfrwng y Gymraeg ac wedyn i’w cynnal ar ôl cael diagnosis.

Pryder pellach yw bod y strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg newydd yn golygu y bydd y datblygiadau yn y ddarpariaeth Gymraeg ddwy flynedd ar ôl y Saesneg.

Dyletswydd ar bob awdurdod

Mae’r pwyllgor yn argymell y dylai pob awdurdod lleol fod yn darparu’r gwasanaethau asesu a sgrinio, gan awgrymu fod cydweithio yn un ffordd ymlaen.

Maen nhw hefyd wedi galw ar Lywodraeth y Cynulliad i ddatrys problem arall – prinder cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg i hyfforddi athrawon a gofalwyr a’r ffaith fod rhai’n methu â fforddio mynd ar gyrsiau o’r fath.

“Mae’r Pwyllgor yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar sicrhau bod modd adnabod dyslecsia yn gynnar a chynorthwyo pobl sydd â dyslecsia yn Gymraeg ac yn Saesneg fel ei gilydd,” meddai Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor.

Ymhlith argymhellion eraill yr adroddiad mae:
• Darparu athro dyslecsia arbenigol ar gyfer pob clwstwr o ysgolion cynradd.
• Darparu cyrsiau hyfforddi athrawon i holl staff ysgolion – yn y ddwy iaith.
• Darparu llinell gymorth ddwyieithog yn rhad ac am ddim i roi cyngor i ddisgyblion, rhieni ac athrawon.

“Dyslecsia-gyfeillgar”

Yn ôl Gareth Jones, AC, mae Cymdeithas Dyslecsia Prydain wedi dweud eu bod am weld pob awdurdod lleol yng Nghymru yn dod yn “ddyslecsia-gyfeillgar’ erbyn 2012.

Maen nhw hefyd yn awyddus i weld 50 y cant o ysgolion yn ennill ‘Gwobr Marc Safon Ansawdd Dyslecsia-gyfeillgar’ erbyn 2013, a hynny’n codi i 100 y cant erbyn 2016.

“Nid ydym yn credu bod hyn yn ddisgwyliad afresymol ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i lunio cynllun gweithredu er mwyn cyrraedd y targedau hyn” meddai Gareth Jones mewn datganiad.

Roedd yr Adroddiad yn dilyn cyhoeddiad adroddiad ‘Cymorth i Bobl â Dyslecsia yng Nghymru’ fis Gorffennaf, 2008, ac yn edrych i weld i ba raddau yr oedd hwnnw wedi’i weithredu.

Llun: Cadeirydd y Pwyllgor, Gareth Jones