Mae dau ddyn wedi’i hachub heddiw ychydig cyn i’w llong bysgota suddo.
Roedd wedi taro yn erbyn creigiau ger glan môr Borth Wen yn Sir Fôn, a hynny mewn tywydd garw.
Ychydig wedi 11 y bore yma fe gafodd gwylwyr y glannau Caergybi alwad o ffôn symudol yn dweud bod peiriant llong bysgota y ‘Jean M’ wedi methu ger creigiau ym Mae Rhoscolyn.
Erbyn hynny, roedd capten y llong a’i gyd-weithiwr yn sefyll ar greigiau ynys fechan Traws – doedd ganddyn nhw ddim amser i wisgo siacedi bywyd nac i wneud galwad radio frys gan fod gwyntoedd gorllewinol cryfder 4 yn chwythu’n eu herbyn.
Fe gafodd tîm achub gwylwyr glannau Rhoscolyn eu galw allan yn syth yn ogystal â chychod achub Bae Trearddur.
Suddo
Chafodd neb eu hanafu yn y digwyddiad ond mae’r llong bysgota wedi suddo mewn 25 troedfedd o ddŵr.
Dyw’r awdurdodau ddim yn credu ei bod yn achosi perygl i longau eraill sy’n pasio – er bod gweddillion wedi dechrau codi i wyneb y dŵr.
Mae’r Adran Ymchwil Damweiniau Môr wedi cael gwybod am y digwyddiad.