Mae ymosodwr Caerdydd, Jay Bothroyd, wedi galw am gysondeb wrth i’r tîm baratoi i herio Sheffield Utd ddydd Sadwrn.

Fe allai buddugoliaeth yn erbyn y Blades symud yr Adar Glas i frig y tabl, ond mae Bothroyd am weld y garfan yn chwarae’n dda trwy gydol y tymor, wedi’r siom o foddi wrth y lan y tymor diwetha’.

“Roedd diwedd y tymor diwetha’n siomedig, felly mae angen i ni fod yn gyson trwy gydol y tymor,” meddai Bothroyd. “Fe gafodd rhai chwaraewyr dymor da fel unigolion y llynedd, ond fel tîm roedd yna ddiffyg cysondeb.”

Mae’r ymosodwr yn credu bod siom y tymor diwethaf wedi gwneud y garfan yn gryfach yn feddyliol ar gyfer yr ymgyrch newydd.

“R’yn ni am herio am ddyrchafiad ddiwedd y tymor. Fe fydd y tîm yma yn parhau i ymarfer yn galed ac yn gweithio’n galed yn y gemau.”

Newyddion y tîm

Mae gan Dave Jones ddigon o ddewis rhan fwya’ o’r chwaraewyr ar gael. Does dim disgwyl y bydd yna fawr o newid i’r tîm a faeddodd Coventry nos Fawrth.

Byddai hynny’n gadael Ross McCormack a Kevin McNaughton yn cynhesu’r fainc.

Opsiwn arall i reolwr Caerdydd yw’r ymosodwr Warren Feeney, sydd wedi dychwelyd o anaf hir dymor.

Hwb arall i’r Adar Glas yw’r newyddion bod Kelvin Etuhu yn gwella o’i anaf a gafodd yn erbyn Newcastle Utd, ac fe fydd yn ôl yn chwarae o fewn rhai wythnosau.