Mae asgellwr Cymru, Shane Williams wedi cael ei benodi’n gapten ar y Gweilch wrth iddyn nhw wynebu’r Gleision yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sadwrn.
Dyma fydd y tro cyntaf i Williams fod yn gapten ar y Gweilch ond, er y sïon bod y tîm hyfforddi yn ystyried ei ddewis yn fewnwr, fe fydd y Llew yn dechrau ar yr asgell. Bydd capten y rhanbarth, Ryan Jones, yn dechrau ar y fainc.
“Mae’n anrhydedd mawr i mi gael y gapteiniaeth”, meddai Williams. “Rwy’ wastad wedi mo’yn y cyfle i gapteinio’r Gweilch. Mae’n gêm fawr ac rwy’n edrych ‘mlaen i arwain y tîm; fydda’ i’n falch iawn.”
Newyddion y tîm
Gyda Mike Phillips a Jamie Nutbrown wedi’u hanafu, mae Rhodri Wells yn dechrau’r gêm yn fewnwr, a Dan Biggar yn faswr unwaith eto.
Does dim lle i James Hook yn y pymtheg cyntaf wrth iddo ddisgyn i’r fainc, gydag Andrew Bishop yn cael ei ddewis yn y canol gyda Sonny Parker.
Mae’r Gwyddel Tommy Bowe ar yr asgell gyda Barry Davies yn safle’r cefnwr.
Blaenwyr
Jerry Collins, Steve Tandy a Tom Smith sydd wedi ennill eu lle yn y rheng ôl gyda Jonathan Thomas a Filo Tiatia yn ymuno â Ryan Jones ar y fainc.
Fe fydd Ian Gough ac Alun Wyn-Jones yn yr ail reng a Duncan Jones, Richard Hibbard a Cai Griffiths yn y rheng flaen.
Carfan y Gweilch
15 Barry Davies 14 Tommy Bowe 13 Sonny Parker 12 Andrew Bishop 11 Shane Williams 10 Dan Biggar 9 Rhodri Wells
1 Duncan Jones 2 Richard Hibbard 3 Cai Griffiths 4 Ian Gough 5 Alun-wyn Jones 6 Jerry Collins 7 Steve Tandy 8 Tom Smith
Eilyddion- 16 Ed Shervington 17 Paul James 18 Jonathan Thomas 19 Filo Tiatia 20 Ryan Jone s21 James Hook 22 Nikki Walker