Mae Llywydd y Cynulliad wedi galw ar i Aelodau Cynulliad roi’r gorau i reoli eu cyflogau eu hunain a thorri’r cyswllt rhwng eu cyflogau a rhai Aelodau Seneddol yn Llundain.

Cyflwynodd Dafydd Elis-Thomas Fesur Tâl i’r Cynulliad a fyddai’n creu panel annibynnol i osod lefelau cyflog a lwfansau ACau.

Byddai rhaid i’w benderfyniadau fod yn rhai terfynol, meddai, a fyddai ACau na Chomisiwn y Cynulliad ddim yn cael cyfle i bleidleisio arnyn nhw.

‘Hollol dwp’

Mae’r Torïaid yn dweud na fyddan nhw’n cefnogi’r newid ond fe ddywedodd y Llywydd y byddai gwrthod y cynnig yn “hollol dwp”.

Yn ôl Comisiwn y Cynulliad byddai’n costio £25,000 i sefydlu’r panel a £5,000 y flwyddyn i’w redeg ond mae’r Ceidwadwyr yn mynnu y byddai’n wastraff arian gan fod cyrff eraill ar gael yn Llundain i wneud y gwaith.

Maen nhw hefyd yn dweud y gallai dechrau gwahaniaethu rhwng y drefn i ACau ac ASau arwain at wahaniaeth yng nghyflogau’r gwasanaethau cyhoeddus hefyd – gwrthod hynny wnaeth Dafydd Elis-Thomas.

Pe bai’n cael ei gymeradwyo byddai yn ei le erbyn mis Hydref nesaf.

Cyflogau

Mae gan y mesur newydd ei wreiddiau yn adolygiad Syr Roger Jones i sustem costau’r Cynulliad, sy’n galw am ffordd newydd o ymdrin â chyflogau ACau. Ar hyn o bryd maen nhw wedi ei glymu at 82% o gyflogau ASau.

“Egwyddor ganolog y mesur ydw i’n ei gynnig yw nad ydym ni fel Aelodau Cynulliad yn ceisio gosod ein tâl ein hunain,” meddai Dafydd Elis-Thomas. Dywedodd nad oedd “cyhoedd Cymru yn mynd i ganiatáu” i wleidyddion osod eu tâl eu hunain bellach.

Fe fyddai’r mesur hefyd yn cryfhau datganoli, meddai. Roedd yn cyflwyno’r mesur yn ei rôl yn Gadeirydd Comisiwn y Cynulliad hefyd. Dyna’r panel sydd fel Bwrdd Rheoli i’r Cynulliad.

Ymateb

“Mae’n rhaid ei bod hi’n iawn bod y sefydliad yma, ar ôl 10 mlynedd o ddatganoli, yn symud i sustem sy’n annibynnol ar eraill. Rydym ni’n fwy nag atebol fel gwlad i benderfynu droson ni ein hunain,” meddai Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.