Mae’r ymgyrch i gael coron Brenin Enlli yn ôl i Wynedd wedi bod yn llwyddiant – rhannol.
Roedd coron Brenin Enlli, sef Love Pritchard – arweinydd olaf tua 100 o drigolion ar yr ynys tan ddechrau’r ugeinfed ganrif – yn cael ei chadw yn Amgueddfa Forwrol Lerpwl.
Ond fe fydd y goron yn cael ei dychwelyd am gyfnod o chwe mis fel rhan o arddangosfa yn adrodd hanes Ynys Enlli.
Fe fydd yr arddangosfa yn agor yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor ddydd Sadwrn.
Y llynedd galwodd y cyn-archdderwydd, Dr Robyn Lewis, llywydd y grŵp pwyso Cyfeillion Llyn, am i’r goron gael ei dychwelyd yn barhaol a’i chadw yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog.
Fydd y goron ddim yn dychwelyd i Enlli ei hun, oherwydd problemau diogelwch a’r angen am amgylchedd arbennig i’w gwarchod.
‘Balch’
“Rydym yn falch iawn i gael y goron yn ôl yng Ngwynedd ar gyfer yr arddangosfa yma,” meddai Esther Roberts, Curadur Amgueddfa ac Oriel Gwynedd.
“Ychydig iawn o eiriau o’r cyfnod sydd yn agor ffenestr i sut oedd y gymuned yn byw a gweithio ar Enlli. Gan fod cymaint o gymeriadau a straeon o gwmpas y goron, mae hi wedi troi’n ‘eiconig’ ynddi ei hun.”
Roedd yna groeso hefyd gan gefnogwyr Ynys Enlli:
“Rydym yn falch iawn o gefnogi’r arddangosfa arbennig yma yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd. Mae’n amserol iawn fod y digwyddiad yn cael ei chynnal eleni – 30 mlynedd ers sefydlu’r Ymddiriedolaeth fel elusen gofrestredig”, meddai John Griffiths o Ymddiriedolaeth Ynys Enlli.