Mae 76% o weithwyr y Post Brenhinol yn cefnogi streic trwy wledydd Prydain.

Fe allai hynny ddigwydd o fewn ychydig dros wythnos, gan effeithio ar y post wrth iddi brysur cyn y Nadolig.

Roedd Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu wedi galw pleidlais am streic ac fe ddaeth y cyhoeddiad amser cinio heddiw.

Mae’r rhesymau tros y streic yn cynnwys newidiadau mewn arferion gweithio, cwynion tros gyflog a phryderon am y gronfa bensiwn.

Mae trafodaethau’n parhau rhwng yr undeb a rheolwyr y Post Brenhinol ond mae streiciau ysbeidiol wedi bod yn digwydd ers 15 wythnos.

Fe fydd rhaid i’r undeb weithredu o fewn mis, neu orfod galw pleidlais arall.