Mae dau ymladdwr caets a aeth am noson allan wedi’u gwisgo fel menywod bellach yn enwog ar ôl llorio dau feddwyn.
Ers i Golwg 360 adrodd yr hanes ddydd Mawrth mae’r ddau wedi cael sylw cenedlaethol, a fideo CCTV o’r digwyddiad wedi ei wylio ledled y byd.
Roedd Daniel ‘Lion Heart’ Lerwell, 23 oed, a James ‘Lights Out’ Lilley, 22, yn ymddangos yn darged hawdd wedi’u gwisgo mewn sodlau uchel, topiau tynn a siorts byr.
Ond cafodd Dean Gardener, 19 oed, a Jason Fender, 22, o Abertawe, dipyn o sioc pan wnaeth y ‘ddwy’ ymladd yn ôl.
Mae modd gweld Dean Gardener ar y fideo CCTV yn ceisio dechrau ar un o’r paffwyr ar Ŵyl y Banc mis Awst.
Eiliadau yn ddiweddarach roedd y ddau ymosodwr ar lawr, wedi eu llorio’n gwbl ddiymdrech gan yr ymladdwr proffesiynol.
Ar ôl hynny, fe gododd y ‘fenyw’ ei bag llaw a cherdded i ffwrdd.
‘Pwy oedd y ddau lipryn?’
Ers i Gardener a Fender bledio’n euog yn y llys i gyhuddiad o ymosod, mae Daniel Lerwell a James Lilley yn mwynhau eu henwogrwydd newydd yng nghampfa Team Predator Abertawe.
Roedden nhw’n rhan o dîm o 10 o ymladdwyr proffesiynol oedd ar noson allan gyda’i gilydd ar y pryd.
“Roedd yna 10 ohonom ni, a pob un wedi ei wisgo fel menyw,” meddai Daniel Lerwell, o Mount Pleasant, Abertawe, wrth bapur newydd y South Wales Evening Post. “Ges i sioc i ddechrau – pwy oedd y ddau lipryn yma? Ond greddf oedd o’n fwy na dim.”
Dywedodd James Lilley ei bod hi’n lwcus bod Dean Gardener a Jason Fender wedi penderfynu ymosod ar rywun oedd yn berffaith abl i’w amddiffyn ei hun. Ychydig funudau ynghynt roedden nhw wedi ymosod ar ddyn a oedd wedi ei wisgo fel Spiderman.