Ar ôl dwyn beic pedair olwyn, roedd lleidr yn credu ei fod wedi ffoi rhag y ffarmwr blin – cyn troi’r gornel a dod wyneb yn wyneb gyda sgwad o filwyr o’r lluoedd arbennig.
Fe lwyddodd y milwyr i’w ddal yn gaeth nes i’r heddlu gyrraedd i’w arestio ger tre’ Tow Law, yn Swydd Durham.
Roedd hi fel ffilm antur, wrth i’r ffarmwr, Nick Walker, 26 oed, sylweddoli fod rhywun yn dwyn un o’r beiciau ATV. Fe aeth ar ôl y lleidr ar feic pedair olwyn arall gan ei ddilyn am dair milltir ar gyflymder o hyd at 50 milltir yr awr.
Pan gollodd y lleidr reolaeth ar ei feic, fe geisiodd ddianc ar droed, cyn dod ar draws llond bws o filwyr lluoedd arbennig yr Iseldiroedd a oedd ar eu ffordd i ganolfan leol ar gyfer hyfforddiant.
Fe wnaethon nhw fachu’r dyn a’i ddal yno wrth i Nick Walker gysylltu gyda’r heddlu.
Annisgwyl
“Doedd o ddim yn disgwyl taro i mewn i sgwad o filwyr o’r lluoedd arbennig,” meddai’r Arolygydd Peter Dawson. “Mae’n dangos nad yw troseddwyr bob tro’n llwyddo i ddianc rhag y gyfraith.”
Cafodd dyn 25 oed ei gyhuddo o ladrad a gyrru heb leisans ac fe fydd yn ymddangos o flaen llys ynadon yr wythnos nesaf.