Mae ymgyrchwyr tros garchar yng ngogledd Cymru’n dweud fod un dyn wedi mynd am naw mis heb gael yr un ymwelydd – oherwydd ei fod mor bell oddi wrth ei deulu a’i ffrindiau.
Mae’r asiantaeth Gristnogol BARA, sy’n gweithio gyda chyn-garcharorion a’u teuluoedd, wedi condemnio penderfyniad y Llywodraeth yn Llundain i beidio â chodi carchar newydd ar gyrion Caernarfon.
“Mae’n ergyd,” meddai Mererid Mair, cyd-gordiwr BARA yng Nghaernarfon. “Rydan ni’n cefnogi teuluoedd sydd â rhywun yn y carchar, a byddai cael carchar yma wedi gwneud pethau gymaint yn haws iddyn nhw. Mae’n wirion nad oes yna ddim carchar yng ngogledd Cymru.”
Taith bell
Ddoe – ar y diwrnod pan gyhoeddodd y Llywodraeth eu newid meddwl – roedd dau o wirfoddolwyr BARA wedi teithio ymhell tros gan milltir i garchar y Parc ger Pen-y-bont ar Ogwr i weld y carcharor lleol oedd heb weld ymwelydd ers cyn y Nadolig diwetha’.
Yn ôl yr asiantaeth, sy’n cael ei noddi’n benna’ gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru, mae un o bob tri o’r carcharorion yng ngharchar Altcourse ger Lerpwl yn dod o ogledd Cymru’n wreiddiol.
Mae gwirfoddolwyr a staff BARA wedi ymuno gyda gwleidyddion lleol i feirniadu penderfyniad y Llywodraeth – fe allai’r carchar fod wedi creu rhwng 700 a 1,000 o swyddi.
‘Gwerth am arian’
Mae perchnogion y safle arfaethedig ger Caernarfon hefyd yn feirniadol gan ddweud fod oedi a newid meddwl y Llywodraeth wedi peryglu cynlluniau eraill.
Yr unig esboniad sydd wedi ei roi gan y Gweinidog Carchardai, Maria Eagle, yw bod angen cael “gwerth am arian” – yr awgrym yw bod y costau’n rhy fawr o ystyried maint y carchar.
Llun: Carchar y Parc (Kenneth Rees – Trwydded CCA 2.0)