Mae un o weinidogion mwya’ profiadol Llywodraeth Cymru wedi cefnogi Edwina Hart i fod yn arweinydd y Blaid Lafur.

Fe ddywedodd y Gweinidog Cyllid, Andrew Davies, wrth bapur y Western Mail na fydd e ddim yn cynnig am y swydd pan fydd Rhodri Morgan yn ymddeol.

Yn lle hynny, fe fydd yn cefnogi’r Gweinidog Iechyd – er nad yw hi wedi dweud eto ei bod hi’n bwriadu sefyll ei hun.

Mae disgwyl y bydd Rhodri Morgan yn cyhoeddi tua diwedd y mis – adeg ei ben-blwydd yn 70 oed – ei fod yn mynd ac mae dau AC, Carwyn Jones a Huw Lewis, wedi gwneud yn glir y byddan nhw’n cynnig.

Mae Andrew Davies ac Edwina Hart yn cynrychioli etholaethau yn ardal Abertawe ond maen nhw’n wahanol iawn o ran cymeriad a steil.

Yn ôl prif ohebydd y Western Mail, Martin Shipton, mae Edwina Hart yn cael ei hedmygu am weithredu’n effeithiol ond yn creu gelynion oherwydd ei ffordd o drin pobol. Mae’n awgrymu hefyd nad yw hi’n hoff o wneud cyfweliadau.