Mae disgwyl y bydd Gordon Brown yn dweud heddiw ei fod yn ystyried torri ar nifer y llongau tanfor niwclear sydd gan wledydd Prydain.
Fe fydd yn dweud wrth arweinwyr rhyngwladol eraill yn y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd ei fod yn barod i dorri ar nifer y llongau tanfor Trident o bedair i dri.
Ond fe fydd hynny’n dibynnu ar weithredoedd tebyg gan wledydd eraill – fe fydd yn galw ar y gymdeithas ryngwladol i ddod at ei gilydd er mwyn gweithio at fyd heb arfau niwclear.
Mae eisoes wedi cyhoeddi eu bod am leihau nifer y taflegrau Trident o 200 i 160.
Daw’r cyhoeddiad wrth i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, arwain y drafodaeth ryngwladol ynglŷn â chyfyngu ar arfau niwclear, a rhwystro rhagor rhag cael eu datblygu.
Mae’r Arlywydd Obama wedi dweud ei fod am gael cytundeb gyda Rwsia i gyfyngu ar daflegrau niwclear y ddwy wlad.
Llun – Trwydded CCA 2.0