Mae cyn chwaraewr rygbi Cymru, Iestyn Harris, wedi cael ei benodi’n brif hyfforddwr tîm rygbi’r gynghrair Cymru ar gyfer gemau’r hydref.

Mae Iestyn Harris yn olynu John Dixon sydd wedi dychwelyd i Awstralia ar ôl colli ei swydd gyda chlwb y Celtic Crusaders.

Cyn chwaraewr Leeds, Bradford a Chaerdydd yw prif sgoriwr Cymru gyda 165 o bwyntiau mewn 20 gêm rygbi’r gynghrair dros ei wlad. Ond roedd hefyd wedi cael capiau i’r tîm rygbi’r undeb ar ôl newid côd am gyfnod.

Gêm gyntaf Iestyn Harris fydd yr un gyfeillgar yn erbyn Lloegr ar 17 Hydref. Bydd honno’n rhan o’r paratoadau ar gyfer gemau yn erbyn Iwerddon a Serbia yng nghystadleuaeth Cwpan Ewrop.

‘Uchelgeisiol’

“Rwy’n edrych ymlaen at gael y cyfle i helpu i ddatblygu rygbi’r gynghrair yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf”, meddai Harris.

“Rwy’n uchelgeisiol iawn fel hyfforddwr, ac mae rygbi’r gynghrair Cymru wastad wedi bod yn agos iawn at fy nghalon, ac felly, byddai’n cymryd y rôl o ddifrif.”

‘Dylanwad mawr’

Dyma swydd gyntaf Harris fel prif hyfforddwr, ond fe fydd ganddo hyfforddwr cynorthwyol profiadol iawn, Clive Griffiths.

Clive Griffiths oedd hyfforddwr Cymru rhwng 1991 a 2000, gan arwain y tîm i rownd cyn derfynol Cwpan y Byd ar ddau achlysur, a sicrhau 15 buddugoliaeth mewn 25 gêm.

Fe wnaeth Cymru hefyd ennill pencampwriaeth Ewrop yn ystod cyfnod Griffiths wrth y llyw.

“Mae Clive wedi bod yn ddylanwad mawr ar fy ngyrfa i dros y 15 i 20 mlynedd diwethaf”, meddai Harris am ei hyfforddwr cynorthwyol. “Fe fydd e’ yn dod â llawer o brofiad, ac fe fydd yn ffigwr tadol i’r chwaraewyr.”

Barn Rygbi’r Gynghrair Cymru

“R’yn ni’n hapus iawn bod Iestyn Harris wedi derbyn y rôl o brif hyfforddwr Cymru,” meddai Mark Rowley, cadeirydd gweithredol Rygbi’r Gynghrair Cymru.

“Mae ganddo’r brwdfrydedd a’r angerdd i ddatblygu’r gêm yng Nghymru, a dyna’r elfennau bydd yn helpu e’ i lwyddo. “R’yn ni hefyd yn falch y bydd rhywun o safon Clive Griffiths yn ei gynorthwyo.”